Wednesday 29 July 2009

LLE MAE'R HAUL - WHERE IS THE SUN



Glaw, Glaw a mwy o law. Tydi hi hyd yn hyn ddim yn haf da iawn. Ar drothwy Awst ac does dim byd onf glaw ar y gorwel. Rhybydd gan yr Eisteddfod y bydd hi "..fatha Wakestock". yna - Be, fydd na fandiau enwog, Cwrw yn £5 y peint a popeth wedi gorffen erbyn fore Llun ?

Mwd wrth gwrs fydd y mwyaf, a'r ffordd gorau o leihau hynny yw gwahardd pob modur o'r cae yn gyfangwbl o 2.00 pnawn gwener tan ddiwedd yr Eisteddfod gan mae cerbydau sy'n torri'r cae i fyny a dim pobol mewn wellingtons.

So tip i wneud pres Eisteddfod WA Bala yw cael stondin yn gwerthu cotiau glaw, ambarels a wellingtons.


Rain, Rain and more rain. It doesn't look good for Summer bso far. As we near August, there is nothing but rain on the horizon. The Eisteddfod has issued a warning that "..it will be like Wakestock".

What famous bands, Beer £5 a pint and everything finished by monday ?

Mud of course will be the biggest problem and the best way to reduce a muddy field is to ban ALL vehicles from the field from 2.00pm on Friday afternoon until after everything is finished as it is vehicles that cut up the field and not people in wellingtons.

So to make money at the Eisteddfod in Bala is to have a stand selling raincoats, umberellas and wellingtons.

Monday 27 July 2009

TRENAU TRYDAN - ELECTRIC TRAINS

Mae'n debyg fod yna wahaniaeth barn efo trydaneiddio trenau y de.

Fy hun, does gen i ddim sylw i wneud gan nad wyf yn defnyddio'r tren llawer.

Ond os yw llywodraeth llundain yn gallu gwario £ biliynnau ar wneud hyn tra bod addysg yn dioddef, yr henoed dan bwysau ariannol, yr ifanc methu cael tai, tlodi yn gyffredinol a'r ysbytai dan ei sang, onid fuasai yn well cychwyn yn y gwaelod a cael y pethau sylfaenol yn iawn gyntaf ?

Yn eiriau rhai sy'n ymarfer Karma.

Heal yourself first before you heal others.



It appears that there is a difference of opinion regarding the electrification of the Swansea to London railway.

Myself, I have no view one way or the other, as I am not an avid rail user.

However, if the Government in London can spend £BILLIONS to do this whilst, Education suffers, the Elderly under financial pressure, our youngsters cannot get a home, the poor getting poorer, and our hospitals full to capacity and overflowing, wouldn't it be better to get the basics right first.

I will reminf you of words that those who practise karma use.

Heal yourself first before you heal others.

BONHEDDWR DEWI TOMOS




Gyda llai na wythnos i fynd nes yr wyl fawr, hoffwn longyfarch DEWI TOMOS sydd wedi cael ei wobrwyo gyda aelodaeth o Orsedd yr Eisteddfod.

Mae Dewi yn byw yn Rhostryfan, yn awdur nifer o lyfrau ac wedi bod yn arloesol gyda Chanolfan Dr Kate Roberts ers oedd yr adeilad yn adfael i'r fenter sydd yno rwan.

Mae o a Mair ei wraig yn weithgar yn gymunedol, ac yn rhannu eu h'agweddau positif led led Cymru gyda nifer o rai eraill.

Bu i Dewi (sydd yn gyn athro) 'sgwennu llawlyfr i blant i fynd o amgylch Glynllifon.

Meddyliwch rwan, cyn athro, awdur nifer o lyfrau, un oedd yn flaenllaw gyda datblygiad Cae Gors, ac yn ychwanegol nawr wedi'w dderbyn yn aelod o'r Orsedd am ei weithgareddau.

Barn "rhyw swyddog" yn Cyngor Gwynedd oedd "...nad oedd y llyfryn yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig" ???

Wel, os nad yw Dewi yn gallu cyrraedd "safon disgwyliedig" pwy sy'n gallu, well i nifer enfawr o athrawon Gwynedd rhoi ffidil yn y to rwan funud hwn a mynd i arddio neu driefio bysus neu rhywbeth tu allan i faes addysg.

Os oes unrhyw un yn gwybod am beth mae plant ei angen i ddysgu, Dewi yw'r un hynny.

- Gyda llaw wedi methu cael hyd i lun o Dewi i'w roi ar y blog, felly mae'r lluniau sydd i fyny yn dod o chwilio Dewi Tomos ar google.




With less than a week to go until the Eisteddfod, I would like to congratulate DEWI TOMOS for becoming a member of the Orsedd.

Dewi lives in Rhostryfan, and is an author of many books, he was also instrumental in developing Cae Gors, the ancestral home of Dr Kate Roberts to what it is today.

His wife Mair, also works hard in the community, and shares Dewi's positive adpects on life throughout Wales.

Dewi who incidentaly is an ex-teacher, wrote a handbook for children visiting Glynllifon.

Think about it now - Ex-Teacher of many years experience, an author of many books, one who developed Cae Gors, and now having been ordained into the Orsedd.

"An officer" from Gwynedd Council decided that "..the handbook did not reach ac acceptable standard"???
So, if Dewi cannot reach "an acceptable standard", Who Can ?

Might as well for many teachers in gwynedd to give up their day jobs and work on the garden, become bus drivers or anything else outside education.

If anyone knows what children need to know, then Dewi is that person.

- By the way, I couldn't find a picture of Dewi to put on the blog, so have searched google with Dewi Tomos and came up with the above pictures.

Friday 24 July 2009

TYMOR PEL DROED - FOOTBALL SEASON



Newydd orffen mae'r diwethaf, ac mae'r nesaf ar fin cychwyn yn Awst. Beth fydd hanes Caerdydd eleni yn eu stadiwm newydd ?, a beth am Wrecsam ?, a'i eleni fyddent yn dyrchafu yn ol i'r Gynghrair Pel Droed yntau aros yn y Blue Squaere fydd eu hanes.

Cefais weld gem Wrecsam tymor diwethaf, ac roedd y safon yn warthus. A dweud y gwir mi fuasai gem Llanrug a Llanberis wedi rhoi mwy o fwynhad i mi na Wrecsom ac Ebbesfleet.

Dwi gyda teimlad yn y dwr mai eleni fydd Wrecsam yn ol ar frig y Blue Square ac yn dyrchafu i'r Gynghrair Genedlaethol Saesneg.

Beth am Cynghrair Cymru, rhaid dweud fod y safon wedi codi rhyw fymryn, ond mae lle i wella. Cawn weld.


The football season has only recently finished and it's due to re-start again during August. What holds for Cardiff in their new stadium this season ?, and what about Wrecsam ?, will they finish as champions of the Blue Square league and win promotion to the Football League ?

I saw a Wrecsam match last season, and the quality of the game was sub-standard. In fact a match between Llanrug and Llanberis would have given me more pleasure than Wrecsam and Ebbesfleet.

I have a feeling in my water that Wrecsam will gain promotion to the Football League this season.

What about the Welsh National League ? i must say that the quality has gone up slightly, but there is place for improvement. We shall see.

Wednesday 22 July 2009

5 WYTHNOS I FYND - 5 WEEKS TO GO



Wel gyda wythnos o wyliau'r plant wedi mynd, does on 5 wythnos yn weddill. Wsos yma roedd fy mhlant wedi bod yn nofio dan gynllun "Nofio am ddim " Y Cynulliad, un o gynlluniau gorau sydd wedi cael ei weithredu, yfory diwrnod yn Gelligyffwrdd, ond beth am wythnos nesaf ?

Pan yn blentyn, roeddwn allan o'r ty am 8.00 y bore a doedd fy rhieni ddim yn fy ngweld tan tua 9.00 y nos. Un diwrnod yn 10 oed mi wnaethom fynd ar ein beics i Felinheli i lan afon menai ac i dy Nain. Rwan eith plant ddim allan heb Nintendo DS, Ipod neu MP3, does yna ddim dringo coed, gwneud dens, dwyn afalau, neu chwarae pel droed a neidio dros yr afon (gan ddisgyn iddi ambell waith).

Tydi bywyd plant heddiw yn "boring"

Well with 1 week of the school holidays gone, and only 5 weeks left.

Today my children went swimming under the "Assembly's free swim scheme", one of their best ideas yet, tomorrow they are off to Greenwood Centre, but what about next week ?

When I was a child I was out of the house by 8.00am and my parents did not see me until after 9.00 in the evening. One time and only 10 years old, we cycled to Felinheli to the Menai Straits and also to see my Nain. Now the children don't go out without their Nintendo DS, Ipod or Mp3, they no longer climb trees, make dens. steal apples or play football and jump accross the river sometimes falling in.

Isn't life for children today boring.

Tuesday 21 July 2009

EISTEDDFOD WA BALA



Wel, dyma ni unwaith eto, yr Eisteddfod ar y gorwel, tro hwn yn ardal Bala.

Mi fyddwn yno ar y Sadwrn cyntaf, dwi hefyd yno Dydd Iau a Dydd Gwener cynt yn gosod carafan ac adlen i fyny i fy rhieni, ond ni fyddaf yno yn ystod yr wythnos.

Be fyddem yn ei weld yw unigolion dosbarth canol Cymreig a Chymraeg yn cerdded o amgylch y maes efo copi o'r "western mail" dan y fraich (er nad ydynt am 51 wythnos arall o'r flwyddyn yn ei brynu), ambarel ar y fraich arall, yn swagro a sefyllian er mwyn cael eu gweld ar er mwyn gweld eraill.

Blynyddoedd yn ol o fod yn lafnyn 8 oed i fyny, roeddwn bob blwyddyn yn gweithio i'r diweddar Eurig Wyn, gwneud bathodynau un flwyddyn, gwerthu breichledi i ddynion, oriawr cymraeg a pob math o geirach tebyg, gan hefyd gwerthu argraffiadau oedd yn llawn rhegfeydd, ac innuendo am rhyw a ballu yn ddi-arwybod o'i cynnwys, heb son am eu deallt. Tydi'r Eisteddfod ddim yr un fath, heb Eurig fod yn tynny'r swyddogion bob ffordd, yn gosod byrddau tu allan i'r babell er mwyn fod yn un o'r cyntaf i werthu cyfansoddiadau y cadeirio.

Tad Eurig (y diweddar Parchedig Price Wyn) fedyddiodd fi yng Nghapel Cefn y Waun, fo hefyd benderfynodd fy ngalw yn Aeron.

Collodd Cymru a'r byd Gymro Cymraeg go iawn pan adawodd Eurig ein plith, llawer rhy fuan, ac mae ei stori am y ci yn gyfranddalwr yng nghwmni BT dal yn y cof fyth heddiw. - Ond stori arall ydi honno.




Well here we are again, with the Eisteddfod nearing closer every day, this time in Bala.

I shall be there on the first Saturday, and I am also there the previous Thursday and Friday, setting up my parent's caravan and awning, but I won't be there during the week.

What we see there are middle class self important individuals who walk the field with the Western Mail under one arm and a brolly under the other (although they never buy the Western Mail for the other 51 weeks). They will be swaggering and standing so that they are seen and to also see others.

Many years ago from being an youthful 8 year old upwards, I used to work for the late Eurig Wyn , making badges one year, sellig watches, sellign bracelets for men and other nic nacs, also selling publications full of swear words, and sexual innuendos unaware of it's content or even understanding of their meanings.

The EIsteddfod is not the same without Eurig winding up the officials with his antics, he used to set up a table to sell "Y Cyfansoddiadau" right outside the exit from the main pavilion, so that he would be the first to sell them and also the biggest seller.

His father (the late Rev Price Wyn) baptised me, and also was responsible for naming me Aeron at Cefn y Waun Chapel, over 43 years ago.

Wales lost a true Welshman when Eurig left us, way too early, and his story about his dog becoming a shareholder in BT is still in my mind - But that's another story.

Monday 20 July 2009

DYN Y LLEUAD - MAN ON THE MOON



Pan yn fychan roedd cymaint yn son fod ar y dydd hwn (20ed o Orffennaf 1969) fod yna ddyn wedi glanio a cherdded ar y lleuad. Ers hynny wrth gwrs mae biliynnau wedi'w wario yn gyrru pobol i'r gofod du uwchben.

Gyda poblogaeth y byd yn llewygu, yn sychedig ac mewn rhyfeloedd onid yw yn amser i ddweud digon yw digon gan edrych ar gadw ein poblogaeth yn saff a diogel a gwario yr holl arian hyn ar ymweliadau i'r tywyllwch du ar y bobl sydd ar y ddaear yn barod.

Does gen i ddim owns o ddiddordeb os oes yna bobol bach gwyrdd allan yna, mae na bobol wyn, du a bob lliw dan haul yma ar y ddaear sydd angen cymorth gyntaf.

Yr un peth dwi yn teimlo am ryfeloedd. R'ydym wedi bod yn cwffio yn Iraq ac Afghanistan, rhyfeloedd roedd Georgie Bush ei eisiau er mwyn gorffen gwaith ei dadi George Bush Snr. Fe ddylai ein soldiwrs ddod adref, mae colli un bywyd mewn rhyfel ellid ei fod wedi'w osgoi yn ormod, ac dwi'n siwr fuasai eu teuluoedd yn falch o'i cael adref.

Yn y cyfamser fe ddylem gefnogi'r hogia sydd allan yna, rhai ohonynt dwi yn ei adnabod yn dda iawn, ond hogia bach, brysiwch adref.


As a youngster on this day in 1969 (20th of July), a man landed on the moon.
Since then billions of pounds has been spent in Space exploration.

People are starving, thirsty and in conflict, isn't it time to say enough is enough, and concentrate on keeping mankind safe and secure and spend this money on people already living on Earth.

I havent any interest whatsoever, on the chance of little green men out there. There are white, black and people of every colour on Earth already that need our help.

I feel the same about the war in Iraq and Afghanistan. We are fighting a war that George Bush Jnr wanted as he wanted to finish off dadddy's job (George Bush Snr).
The soldiers should come home. Loosing one life in war gthat could have been avoided is too much, and i'm sure that soldiers' families would love their boys and girls to come home.

In the meantime,we should be supporting the soldiers out there, some I know well, but bois bach, hurry home.

AGORIAD Y MAES - RE-OPENING OF Y MAES




Dydd Sul roedd agoriad swyddogol Y Maes yn ei newydd wedd. Nid ydwyf yn fan mawr o'r gwaith sydd wedi ei wneud yno, mae'n beryg i'r oedranus, y deillion ac unrhyw un sy'n cerdded ar lechen gwlyb sydd wrth gwrs yn dueddol i fod yn llithrig.

Ond chwarae teg i'r trefnwyr, roedd yna ddigon o weithgareddau yno, o fandiau, i ddawnsio traddodiadol, i Wil Tan (cefnder Sam), a grwpiau o blant yn canu a dawnsio.

Hefyd da oedd gweld traffig wedi'w wahardd oddi yno, roedd yn gwneud pethau ddipyn haws.

Parch mawr at y rhai sydd wedi bod yn ddygyn yn paratoi a trefnu ac mi gefais sgwrs gyda amryw ohonynt. Mi gefais sgwrs hefyd gyda amryw o ddreifar's tacsi a pobl sy'n byw o gwmpas Y Maes ac dwi wedi cael syniad i roi ymlaen i'r Cyngor fis Medi.

Roedd dipyn yn gofyn

Ble roedd Dafydd Iwan ? - ac ddywedwyd ei fod ar ei wyliau. Gan obeithio fod ei gar wrth gwrs adref ac nid mewn llecyn i'r anabl.

Sy'n dod a fi i ganwr fyd enwog arall sef Bryn Terfel a rhyw stori eithaf digri (os yn wir neu beidio) am Bryn yn mynd am ei Sglodion a Pysgodyn i'r dafarn datws leol yn Montnewydd, sy'n cael ei redeg gan deulu o Asia, sydd hefyd yn berchen Tafarn gwrw Y Bedol yn Bethel.


Aeth y sgwrs fel a ganlyn.

Dyn Chips: You sing don't you ?

BT: Yes

Dyn Chips: Would you come and sing in my pub in Bethel, Y Bedol ?

BT: I don't think you can afford me.


Gwir neu beidio, mae'n stori ddoniol.





Sunday was the official opening of the new Maes in Caernarfon. I am not a big fan of the work done there as it is dangerous for the elderly, the blind and anyone who walks on wet slate which has a tendency to be slippery in these conditions.

But fair play to the organisers, there were plenty of activities going on there, from bands to folk dancing, to Wil Tan (cousin of Sam) and groups of children singing and dancing

Also it was good to note that traffic had been banned from there which made things easier.

Respect to those who had been involved in arranging the day and I had a chat with many of them, including taxi drivers and people living in and around the square, and I have had an idea to put forward to the council in September.

Many were asking,

Where is Dafydd Iwan ? - and were told that he was on his holidays, hopefully having parked his car in somewhere without a disabled sign.

Which brings me on to another world famous singer, namely Bryn Terfel and a story slightly humourous (true or not) about Bryn going for Fish and Chips to the local shop in Bontnewydd, which is being run by an asian family who also own Y Bedol pub in Bethel.

The conversation went as follows:

Shop Owner: You sing don't you ?

BT: Yes

Shop Owner: Would you come and sing in my pub in Bethel, Y Bedol ?

BT: I don't think you can afford me.


True or not, it brought a wry smile.

PENWYTHNOS HECTIC - HECTIC WEEKEND




Rwan dwi yn cael y cyfle i sgwennu ar y blog ac ymateb i sylwadau. Fore Sadwrn roeddwn yn rhoi 2 Marquee i fyny ym Mhlasdy Glynllifon. Yna y noson honno roedd Cor Glanaethwy yn canu er mwyn codi arian i Gapel Bwlan ac roedd oddeuty 250 o bobol a plant wedi troi allan i fwynhau.

Does gen i ddim plentyn yn y Cor, nac ydwyf chwaith yn aelod o Gapel Bwlan, ond roedd Cliff o Landwrog wedi trefnu popeth fel cloc, ac roeddwn yn falch o roi fy amser i'w gynorthwyo.

Roeddwn yn nol yna am 8.30pm i dynny popeth i lawr gan fod gan y Plasdy weithgaredd yno ben bore canlynnol. Wedi mynd a'r marquee yn ol, cadw popeth arall, roeddwn am 10.30 yr hwyr yn llwytho'r trailer efo stwff i Arwerthiant Car oedd yn cael ei gynnal yn maes Carafanau Dinas Dinlle er mwyn codi arian i Ysgol LLandwrog.

Roedd tua 10 cerbyd yno a codwyd oddeuty £60 i'r Ysgol. Mi wnes innau ac arweinydd yr wrthblaid (sef y bos) rhyw geiniog neu ddau hefyd.

Diolchiadau i Tommy yn y Maes Carafanau am ei barodrwydd bob tro i helpu'r Ysgol.

Yr un diwrnod mi es i weld "Diwrnod yr Hen Soldiwrs" (Veterans Day) yng Nghaernarfon. Roedd rhain wedi rhoi ei bywyd ar y lein mewn rhyfeloedd o'r Ail Ryfel Byd ymlaen ac yn haeddu ein parch a'n gwerthfawrogiad.

Piti fuasai rhywyn wedi stopio'r cerbydau ddefnyddio y Maes a'r ffyrdd o gwmpas am y diwrnod oherwydd roedd gweld pobl yn cerdded a ceir o'i cwmpas yn codi bwganod mawr i mi. Daeth cerbyd at y dorf ac roedd yna heddwas oi'w droi oddi yno. Piti na edrychodd yr heddwas ar ffenestr y cerbyd gan nad oedd ganddo dreth car.

Hefyd trefniant pethau efallai yn gallu bod yn well. Roedd Band Deiniolen yn arwain pethau yn y Castell a neb wedi dweud wrthynt pa ganeuon i ganu. Roedd angen "God save the queen" ac nid oedd y miwsig gan y band.

Mae yna Dduw yn y diwedd !

Diwrnod wedyn roeddwn yn agoriad swyddogol Y Maes.




Now is my first opportunity to write my blog and reply to remarks.

Saturday morning I was putting 2 Marquees up in Glynllifon. That night there was a concert in aid of Capel Bwlan with Cor Glanaethwyr singing to an audience of 250 people and children.

I don't have a child in the choir nor am i a member of Capel Bwlan, but Cliff from Llandwrog had arranged everything like clockwork and I was glad to help.

I was back there for 8.30pm to take everything down as the Mansion had another function there early next day. After keeping the Marquee and everything else, at 10.30pm, I was re-filling the trailer with stuff for a car boot sale which was to be held early next day at Dinas Dinlle Caravan Park in aid of Llandwrog School.

There were 10 cars there and we raised about £60 for the school. Myself and "the leader of the opposition" (my partner) made a few pennies as well.

Many thanks to Tommy from the Dinlle Park Caravan Site for always being willing to help the School and local charities.

The same day I attended the Veteran's day in Caernarfon. These people had put their lives at risk from the Second World War onwards and deserved our respect and admiration.

It was a pity that no one had thought to stop traffic flow for the day as it was dangerous for people to stand and walk with traffic weaving in between.

A car came towards a crowd of people but was turned back by a policeman. Pity he didn't look at the windscreen as it did not have a car tax.

Arrangements could have been slightly better. Deiniolen Brass Band were inside the Castle leading the procession and no one had told them beforehand what music to play.

There was a need to sing "God save the queen", but Deiniolen Brass Band didn't have the music with them.

Thankfully there is a God !

Next day I attended the opening of " Y Maes" in Caernarfon.

Wednesday 15 July 2009

TYMOR YR HAF - SUMMER TERM



Mewn un ffordd dwi yn hoffi'r haf, hoffi'r haul, tywydd poeth, lan y mor a ballu ond un anhawster o'r adeg yma ydi gwair yn tyfu yn gynt, gwrychoedd angen eu trin yn aml, coed angen eu tocio a lot mwy o waith chwynu yn yr ardd.

Gan fod yr ardd acw tua 1/4 acer, mae gennyf ddipyn o wair i dorri, dipyn o wrychoedd yn ei h'amgylchynu a beth wmbrath o goed o gwpas y ty a'r ardd.

Mae na rhywbeth i ddweud wrth ardd goncrid weithiau.



In one way I like the summer, the sun, warm weather, seaside and other summery stuff, however the only problem this time of year is that the grass grows quicker, the hedges need trimming more often, trees need pruning and a lot more work weeding the flower beds.

With the garden over 1/4 of an acre, I have a lot of grass to cut, a lot of hedges to trim, and i'm surrounded by trees.

There is something to say about concrete gardens sometimes.

CYFARFOD GORFFENNAF - JULY MEETING


Yfory mae yna gyfarfod olaf cyn y gwyliau yn y Cyngor. Mi fyddwn yn gofyn cwestiwn er mwyn clirio unrhyw amheuaeth neu gamddealltwriaeth gan drigolion Gwynedd. Tros yr haf dwi am gerdded rownd y ward, yn siarad efo'r etholwyr, cael eu barn er mwyn eu cynrychioli o Fedi ymlaen. Dyna yw pwrpas Cynghorydd lleol a dim yno i ddilyn polisiau parti gwleidyddol fel mae rhai yng Ngwynedd yn ei wneud.

Tommorrow will be the final meeting before the Summer. I shall be asking a question so that any misunderstanding or misconception by electors in Gwynedd can be cleared. Over the summer I intend to walk around my ward speaking to electors to get their view and opinions on matters so that I can represent them from September onwards. That is th epurpose of a local councillor and not to follow party politics as some in Gwynedd do.

MABOLGAMPAU YR YSGOL - SCHOOL



Neithiwr roedd noson mabolgampau ysgol y genod. Mae'n dda dweud nad yw ysgolion Gwynedd wedi cymeryd ffadan goch o sylw o'r rheolau iechyd a diogelwch gwirion yma sy'n bodoli o beidio gadael plant wneud ras sach, ras tair coes a ras llwy ac wy.

Mae'r wlad hon yn mynd yn rhy PC (a dim Plaid Cymru dwi'n feddwl).

Yn ras y tadau, roedd tua 8 tad wedi camu ymlaen (gan gynnwys fi).

Diwethaf ond dau oeddwn, allan o wynt a bron a disgyn yn y diwedd.



Last night was the School sports day at my children's school. It's great to know that schools in Gwynedd haven't taken any notice of political correct health and safety rules that stops children from competing in sack race, three legged race and egg and spoon race.

In the fathers race, - 8 fathers "volunteered" (including myself)

I was last but two, out of breath and I nearly fell at the end.

FFLIW Y MOCH - SWINE FLU


Mae'n debyg fod hwn yn dod yn agosach atom na da ni yn feddwl. Mae fy nheimladau efo teuluoedd sydd yn ofnus neu sy'n amau y ffliw. Y peth mwyaf yw i beidio creu panic, a mynd i'r meddyg os oes unrhyw amcan gennych mai ffliw moch ydi'r afiechyd.

I gael mwy o wybodaeth arno, gweler y safle hwn.

http://en.wikipedia.org/wiki/Swine_flu



It is likely that this is closer than what we think. My thoughts are with the families who are afraid of catching it and those who have it. The main thing is not to panic, and to go and see your doctor if you have any doubt that anyone is suffering from swine flu.

More information can be had at.

http://en.wikipedia.org/wiki/Swine_flu

Tuesday 14 July 2009

DYFRIG JONES


Wel lle mae rhywyn yn dechrau, mae hyd yn oed pobl yn ei blaid ei hun yn meddwl ei fod yn 'chydig o ffwl, heb son am unigolion o bleidiau eraill. Mi roedd yn gweithio i BARN, sef cylchgrawn dosbarth canol efo cylchrediad llai na papur newydd Eco Dinas Dinlle, ond rwan mae'n gweithio i'r Brifysgol. Roedd cais cynllunio gan Gyngor Gwynedd i glirio tir yn Nhalysarn er mwyn cael llechi i Cilgwyn. Gyda 78 o lythyrau yn gwrthod, dim un yn cefnogi a gyda tros 30 o bobl wedi dod i gyfarfod cynllunio i brotestio.

Roedd Dilwyn Lloyd (Talysarn - Anibyn) wedi gwrthwynebu, eilwyd ef gan Eric Jones (Groeslon-Anibyn) ac roeddwn innau hefyd yn gwrando ar lais bobl Talysarn ac wedi gwrthwynebu.

Yn ystod y cyfarfod mi ddywedais na spin oedd Adran 106 i ddiogelu tai i bobl leol ac hefyd "Tai Fforddiadwy". Tydi banciau ddim mwyach yn rhoi benthyciadau i unrhyw un sydd a Adran 106 ar eu tai felly os nad oes gan rhywyn yr arian parod, ni allent brynu'r ty. Yn ail Ty Fforddiadwy, gall hynny feddwl unrhywbeth. Y diffiniad cywir ydi rhaid i dy cael ei werthu am 30% yn llai na pris y farchnad. Meddyliwch am dy moethus yn cael ei ddiffinio fel ty fforddiadwy. Gwerth y farchnad yn £300,000 ond am ei fod yn "fforddiadwy" rhaid i'w werthu am £210,000. Tydi hynny ddim yn fforddiadwy.

Dylid ail ddiffinio "Tai Fforddiadwy" yn dai fydd ddim yn cael eu gwerthu am fwy na £120,000, mae hynny wedyn yn fforddiadwy i nifer mwy yn ein cymdeithas.

Gyda llaw, roedd nifer o Blaid Cymru yn fy nghefnogi I mai spin ydi Adran 106 a Tai Fforddiadwy.



Where does one start, even councillors within Plaid Cymru think Dyfrig is a bit of a fool let alone other members of other parties. he used to work for BARN, a middle class Welsh publication with a circulation less than Eco Dinas Dinlle, but now he works in the University.

There was a planning application by the Council itself to remove slate from a site in Talysarn to cap Cilgwyn tip. There were 78 letters objecting and no letter of support. Over 30 people attended the meeting to protest.

The local Councillor Dilwyn Lloyd (Talysarn - Indi) objected, he was seconded by Councillor Eric Jones (Groeslon- Indi) and I also listened to the people and objected.

During the meeting I stated that Section 106 and Affordable Homes was all spin. Banks no longer will supply mortgages to anyone with a Section 106 on their homes,so unless people have the ready cash, they won't be able to buy it. Affordable homes is a house that must be sold for 30% less than the market value. So think of a house for £300,000 - it must be sold for £210,000, Is this affordable ?

Affordable homes should be re-defined as homes available for less than £120,000, this will make them more affordable to a greater number within our communities.

By the way a number of Plaid Cymru Councillors supported me stating that they also think that Section 106 and Affordable Homes is all spin.

PARCIO ANABL - DISABLED PARKING


Mae'n amlwg fod y ffrae hon yn dal i fynd. Nid yn unig roedd Dafydd Iwan yn ceisio amddiffyn ei hun am barcio mewn lle i'r anabl, ond mae arweinydd portffolio gwasanaethau cymdeithasol y Cynghorydd Dai Rees (Plaid Cymru) nawr yn ceisio amddiffyn gweithred Dafydd. Dai Rees sy'n gyfrifol am wrthod i drigolion tai sydd gyda anabledd gael lle parcio wedi'w farcio o flaen eu tai, fo sy'n gyfrifol am geisio cau uned i bobl sydd ag anabl ym Mhen Llyn o'r enw Erw Aur. Mae'r gefnogaeth hyn yn gefnogaeth dall, ac yn gwneud i Dai edrych yn ffwl.

This row is ongoing. Not only Dafydd Iwan tried to defend him parking in a disabled spot, but the portfolio leader for social services Councillor Dai Rees (Plaid Cymru) has now come out in support of Dafydd Iwan. This is the man who has refused people to have disabled parking outside their homes (even though they are disabled), he is responsible to try and close an unit for the disabled in Llyn namely Erw Aur. This is an example of blind support to the indefensible and it makes Dai look the fool.

Monday 13 July 2009

GWYL IFAN

Tros y penwythnos, roeddwn wedi mynychu gwyl flynyddol ym mhentref Llandwrog sef GWYL IFAN. Mae'n ddiwrnod ble mae'r pentref yn dod at eu gilydd, plant ac oedolion yn cystadlu, cymdeithasu, bwyd yn y dafarn a peint neu ddau wedyn. Roedd y genod wedi cystadlu mewn nifer o gategoriau, braf dweud fod Siwan wedi cael trydydd am ffotoraffiaeth (llun sbeidar go hyll), 3ydd hefyd am addurno cacen a Megan yn cael trydydd am addurno bisgedi. Ni gaeth Awel ddim byd, roedd y llun ganddi allan o ffocws, ond mi rois o i fewn gan mai llun hi ydoedd. Ges i ddim byd am llun o'r Wyddfa o Ben Llyn , ond roedd y safon yn wych ac dweud gwir roedd gennyf gywilydd o'r llun ynghannol y gweddill oedd yno.

Daeth cystadleuaeth y diwrnod i ddynion. Neb yn gwybod beth oedd o, ac mawr syndod oedd darganfod mai paratoi tysw o flodau oedd y gamp.

Braf oedd gweld tua 25 o ddynion cyhyrog, mawr yn chwarae efo blodau, rubannau a dail. Ges i ddim byd yn hwn chwaith.


Over the weekend I was at GWYL IFAN day in Llandwrog. It is a day where the villagers come together to compete, mix socially, having supper and a few pints in the local tavern.

The girls competed in many categories and Siwan had two 3rd's one in cake decorating and the other on photography (an ugly looking spider), with Megan having 3rd for biscuit decorating. Awel didn't win anything as her picture was out of focus, but never mind.

I had nothing either, my picture of Wyddfa from Pen Llyn was amateurish in comparison to other entrants.

The final event was a competition for the men, this year unbeknown to us was "flower arranging".

It was unusual to see circa 25 big muscular men playing with flowers, ribbons and foilage. I got nothing for this as well.

Wednesday 8 July 2009

"SOMEBODY"

Gan fod Dafydd Iwan yn dweud fod "somebody" wedi rhoi caniatad iddo barcio mewn lle i'r anabl (a fynte ddim yn anabl wrth gwrs), dwi wedi cofio am y bennill hon.

As Dafydd Iwan has said that "somebody" gave him permission to park in a designated disabled space (with him not having a disability), it reminded me of the following verse.

This is a little story about four people named Everybody, Somebody, Anybody, and Nobody.

There was an important job to be done and Everybody was sure that Somebody would do it.

Anybody could have done it, but Nobody did it.

Somebody got angry about that because it was Everybody's job.

Everybody thought that Anybody could do it, but Nobody realized that Everybody wouldn't do it.

It ended up that Everybody blamed Somebody when Nobody did what Anybody could have done

RODDERS YN CHWTHU FUSE - RODDERS BLOWING A FUSE


Mae Rhydian Fon James (aka Rodders) wedi chwthu fuse am Dafydd Iwan yn parcio mewn lle i'r Anabl. Mae ganddo lythyr heddiw yn y Daily Post yn ceisio cyfiawnhau ei arwr yn gwneud y ffasiwn beth. Diffyg mwyaf Rodders yw ei fod wedi'w ddallu gan wleidyddiaeth twp a gwirion Plaid Cymru ac ei fod yn coelio fod popeth Plaid Cymru yn dda a ffrwythlon ac mae pawb arall yn ddrwg ac yn wrth Gymreig.

Tydw i ddim wedi cael y pleser o gyfarfod Rodders ond mae'n helpu cadw'r mater hwn fynd a mynd.

Cangymeriad Dafydd Iwan oedd parcio mewn lle i'r anabl. Wedi fe ddechreuodd dyllu gan ddweud fod ganddo ganiatad "someone". Dwi wedi bod drwy lyfr ffon menwol y cyngor a does na neb o'r enw "Someone" yn gweithio yno felly sut mae Dafydd Iwan yn gwybod fod y "somebody" hwn yn gweithio i'r Cyngor, efallai fod ar ei wyliau yn yr ardal, efallai ei fod wedi denig o garchar yr heddlu neu efallai ei fod yn bodoli yn nychymyg Dafydd Iwan ei hunan. I glirio'r mater, beth am enw Dafydd.

Dwi wedi cymeryd llun o'r llecyn parcio anabl o swyddfeydd y cyngor ac wedi marcio yn well y bocsus er mwyn i Rodders weld yn glir. Fe ddylai Rodders wybod fod llecynau i'r anabl yn fwy nag arfer er mwyn gwneud lle i gadeiriau olwyn. Fe welir yn glir 3 lle parcio. Un o rhain oedd wedi'w cymeryd gan Dafydd Iwan.



Rhydian Fon James (aka Rodders)has blown a fuse regarding Dafydd Iwan parking in a space designated for the disabled. He has a totally riddicolous letter in today's Daily Post trying to justify the actions of his hero in parking in the disabled spot.

Rodders's major problems is that he is blinded by idiotic Plaid policies and that he believes that everything Plaid Cymru is good and great whilst others are bad and anti Welsh.

I havent had the pleasure of meeting Rodders yet, but he is helping us keep this matter going on and on.

Dafydd Iwan's mistake was parking in a designated disabled space. Then he started digging a large hole for himself by saying that "someone" had given him permission to park there. I have gone through the Council's internal directory and cannot find anyone called "someone" working for the Councilso how does Dafydd Iwan know he worked for the Council, he could have been on holiday in the area, perhaps "sommeone" had escaped from the custody suite of North Wales Police, or perhaps he only exists in Dafydd Iwan's mind. So to clear the matter of "somebody", perhaps Dafydd Iwan would like to give us his/her name.

I have taken a picture of the spot from the Council Offices, and clearly marked are the boxes denoting parking for the disabled. To make it clearer for "Rodders" I have re-marked so it is clearly visible. Rodders should know that designated spaces for the disabled generally are larger for wheelchair access. Clearly shown are 3 spaces. One of which was occupied by a fully fit Dafydd Iwan.

HYFFORDDIANT I AELODAU / TRAINING FOR MEMBERS




Heddiw dwi a nifer o aelodau eraill yn mynychu hyfforddiant i aelodau sydd yn parhau drwy'r dydd. Mi fyddwn yn parcio yn y Cei (gan fod Maes Parcio y Cyngor yn llawn erbyn 10.00 y bore) ac yn cerdded am rhyw 5 munud (sy'n dda i chi medde nhw) gyfochr a'r castell i Siambr y Cyngor.

Os fuaswn yn Lywydd y Blaid, mi fuaswn yn gofyn i barcio mewn lle anabl, ond tegwch yw tegwch ac mi fydd yn rhaid i mi barcio mewn safle arall a cerdded.

Pwy ddiawl mae pobol yn feddwl ydi nhw pan mae hunan bwysigrwydd yn cymeryd drosodd deddfwriaeth a rheolau gwlad.

Dwi wedi rhoi llun o'r llecyn parcio i fyny, ble roedd Dafydd Iwan wedi parcio sydd yn dangos yn glir ar y wal a'r llawr mai lle parcio i'r anabl ydi'r safle hwn - End of.

Today, myself and a number of members are attending a training day for Councillors which will last all day. I will be parking on the quay (as the council car park will be full by 10.00am) and shall be walking for about 5 minutes (which supposedly is good for you) by the side of the castle to the chamber.

If I were to be the president of Plaid Cymru, I would ask to park in a designated disabled zone and walk.

Who the hell do this kind of people think they are, when their self importance superseeds the law of the country.

I have a picture of the parking spot up where Dafydd iwan had parked and it clearly shows the spot as being for the disabled - The sign on the wall and the markings on the floor I think are a dead giveaway. - End of.

Monday 6 July 2009

OS MEWN TWLL STOPIWCH DYLLU - IF IN A HOLE STOP DIGGING





Mae hon yn frawddeg dda. Mi gefais brofiad o'i defnyddio pan yn cwffio fy achos yn erbyn CYMAD Cyf. Mi ddywedais hi wrth y cyfarwyddwyr oedd yn un lygeidiog yn ceisio achub Elwyn Vaughan ac yn gwrthod gweld y gwendidau amlwg oedd yn bodoli.

Yn fy nghyfarfod efo Robin Llywelyn Portmeirion, mi ddywedais wrtho, i stopi tyllu twll mawr iddynt eu hunain. Wnaeth o wrando, naddo. Ond dyna fo, mi fydd am byth yn cael ei gysylltu gyda unigolyn sydd wedi'w ddarganfod yn euog o ffugio sieciau gyda sel bendith y cyfarwyddwyr, sy'n mynd a fi i Rhydian Fon James.

Blogiwr Plaid Cymru Cangen Bontnewydd, sydd yn ceisio achub ei arweinydd, oedd yn ol son wedi parcio ei gar mewn lle i'r anabl.

Dim byd yn anghywir yn hynny ar wahan iddo beidio cael anabledd corfforol o gwbl (hyd y gwyddwn). Dylai fod wedi rhoi ei law i fyny a dweud SORI hogia, wnai ddim eto.

Erbyn rwan wrth gwrs mae'n disgyn i'r un categori a gwleidyddion sy'n cerdded i dafarn efo sigars, pwysigion y wlad yn gwneud sylwadau hiliol, ac yn gorfod syrthio ar ei gleddyf.

Cysgu ar ei gleddyf wnaeth Macsen, ond fe fydd rhaid i DI ymddiswyddo fel Cadeirydd PEG yng Ngwynedd.

Mae parcio mewn llecyn anabl r'un fath a cicio ci neu gath mewn stryd o bobl.

Tydi'r weithred ddim yn dderbyniol mewn cymdeithas.



If in a hole - Stop digging. This is a good sentence. I had reason to use it in my action against CYMAD Cyf. I told the directors who saw Elwyn Vaughan as totally innocent and refused to see the cracks appearing on the horizon.

In my meeting with Robin Llywelyn of Portmeirion, I told him to stop digging a large hole for themselves. Did he listen - did he hell as like, and he will now for ever be associated with an individual who was found guilty of forging cheques with the approval of him and his fellow directors.

This takes me to Rhydian Fon James, self acclaimed blogger of Plaid Cymru Bontnewydd Branch (It's the same branch that meets in the bus stop at Dinas) who in his attempt to save his president and leader, who is alleged to have parked his volvo in a parking space designated for the disabled. Nothing wrong in that (I hear you say) apart from the fact that he is not physically disabled (as far as I know).

He should have put his hand up and said SORRY lads, I won't do it again.
But by now of course he falls into the same category as Assembly Members walking into a pub with a cigar, dignitaries making racist comments and falling on their sword. Macsen slept on his sword, and DI will now have to resign as the Chairman of PEG Gwynedd.

Parking in a disabled spot when not disabled is the same as kicking a dog or cat in public, it's unacceptable in today's society.

Sunday 5 July 2009

PARCIO I'R ANABL - PARKING FOR THE DISABLED

Dw'n meddwl ei bod yn gywilyddus fod unigolion sydd heb anabledd yn parcio mewn mannau wedi'w glustnodi i'r anabl. Mi fyddwn yn postio lluniau a fideo o gerbydau ac unigolion sydd wedi gwneud hyn ac yn gofyn i'r Cyngor gymeryd achos yn eu h'erbyn yn y llys er mwyn gwneud esiampl.

I believe that it is beyond comprehension that individuals without disability park in a marked disabled parking space. I will post pictures and videos of vehicles and indivudals who has done this and ask the council to pursue the matter in court to make an example of them.

Y BLOG CYNTAF - THE FIRST BLOG

Ers peth amser dwi wedi bod yn meddwl symyd ymlaen i'r dechnoleg diweddaraf a bloggio. Mae'n ymddangos fod pawb wrthi, o bobl gyffredin, i aelodau seneddol.

Mae rhai dwi yn hoffi oherwydd eu sylwadau ar fywyd sy'n ysgafn ac yn rhoi prospectif i bobeth sy'n mynd ymlaen, rhai dwi yn cytuno yn gryf gyda a rhai nad wyf yn cytuno fawr ddim gyda'r awduron.

Yn bendant, mae ambell i flog yn cymeryd rhyw swipe bach ataf fel unigolyn ac hefyd at y Blaid rwyn ei gynrychioli ar Gyngor Gwynedd sef LLAIS GWYNEDD ac os yn ffeithiol, dwi yn hapus i'w dderbyn, ar y cyfan dwi yn gallu ei gymeryd o ac yn gallu ei roi.

Cenfigen yw y ffaith fod aelodau Plaid Cymru yn gweld fod LLAIS GWYNEDD wedi'w disodli yma yng Ngwynedd, ac am y tro cyntaf ers degawdau mae pobl Gwynedd yn cael gwybod faint o lanast mae Plaid wedi ei wneud yma yn ein Sir. Llanast ariannol, gweinyddol a gwleidyddol. Nid ydynt mwyach yn rheoli y Cyngor, yn hytrach mae angen iddynt gael cydweithrediad aelodau eraill i geisio cael eu polisiau drwodd.

Ta waeth dwi yn obeithiol o efelychu un o flogwyr mwyaf y flwyddyn sef Cynghorydd Gwilym Euros o flogio yn ddigon aml. Amser a ddengys.

Dwi'n cychwyn y blog ar ddiwrnod pwysig yn hanes fy ail ferch MEGAN. Mae hi yn 6 oed heddiw. Penblwydd Hapus Megs.



For some time I have been thinking of embracing this new technology by blogging. It appears that everyone is at it from the general public to MP's.

Some I like for their perspective on life generally, and they are able to summarise everyday matters in relation to what goes on in this World.

Some bloggers have a swipe against me and the party that I represent on Gwynedd council namely LLAIS GWYNEDD, and if it is factual then I am happy to take it, after all if you dish it out, expect to take it as well.

It's all down to members of Plaid Cymru being jealous of the fact that LLAIS GWYNEDD have removed them from power here in Gwynedd ,and for the first time in ages, the people of Gwynedd get to know how ineffective Plaid have been and what a mess they have done here in the County over the last few decades.

They do not have a majority in the Council any more, they now depend on others to try and get their policies through.

Never mind, I hope that I can blog as often as my fellow councillor here in Gwynedd namely Gwilym Euros. Only time will tell.

I start the blog on an important day in that today my middle daughter Megan is 6 years old. Penblwydd Hapus Megs.